Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (219)v6 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
Cynnig i ethol aelodau i bwyllgorau NDM5588 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru);
(ii) Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyllideb Ddrafft 2015-16 (30 munud)
Dogfen
Ategol
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol (30 munud)
Dogfen Ategol Grwp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Swyddogion Cymorth Cymunedol – Flwyddyn yn Ddiweddarach (30 munud)
|
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd mewn perthynas â darpariaethau sy'n ymwneud â'r drosedd o gam-drin neu esgeulustod bwriadol gan weithwyr gofal (15 munud) NDM5540 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd sy'n ymwneud â throsedd esgeulustod bwriadol neu gamdriniaeth gan ofalwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd yma: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/criminaljusticeandcourts.html (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Adroddiad Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
7 Dadl: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus (60 munud) NDM5581 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod pwysigrwydd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid diogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol darlledwyr iaith Gymraeg.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu:
a) y dylid creu corff llywodraethu datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y BBC yn y DU;
b) y dylid penodi cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC drwy gytundeb ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; ac
c) y dylai bwrdd Ofcom gynnwys aelod sydd â chyfrifoldeb penodol dros gynrychioli Cymru.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid datganoli trwyddedu radio cymunedol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi trydydd Adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom y bwriedir ei gyhoeddi yr haf nesaf.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rôl y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae o ran cynyddu cyfranogiad yn y broses wleidyddol a'r dylanwad y maent yn ei gael ar fywyd diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau dyfodol yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau atebolrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i'r Cynulliad hwn yn ogystal ag i Senedd y DU.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y dirywiad mewn rhaglennu lleol ar radio masnachol. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Hydref 2014